Caerau colli ond mae Llantwit yn ffindio’r hwyl

Adroddiad – Caerau Ely FC v Llantwit Major

Novira Cymru South – Gêm 12

Seren y Gêm – James Williams

Yn Bresennol – 174

Hanner Cyntaf

Sgriffenodd GARETH ROWE.

Ar nos Wener oer a gwlyb dros ben, o dan y goleuadau, roedd Caerau Ely yn edrych i ymestyn eu rhediad anhygoel o ganlyniadau, a allai fod wedi eu gweld yn cyrraedd brig y gynghrair erbyn diwedd y gêm. Gwnaeth y Young Guns bump newid i’r tîm a ddechreuodd y gêm ddominyddol y Gwpan yn erbyn Llanelli ddydd Gwener blaenorol. Dychwelodd Irving i’r gôl, Fowler i’r amddiffyn, Turner a Harding i ganol cae, a Liam Bishop i’r ymosod, gan ailafael yn eu lleoedd yn un ar ddeg cychwynnol Caerau Ely. Daeth yr ymwelwyr i’r gêm yn dilyn dechrau siomedig i’r tymor, a oedd wedi eu gadael yn agos at y waelod y gynghrair gyda naw pwynt ar bwynt cynnar hwn o’r tymor. Roedd buddugoliaeth yn hynod bwysig i’r naill dîm neu’r llall, felly dechreuodd y ddau dîm yn gyflym.

Wrth i’r glaw arllwys, Caerau Ely ddechreuodd yn gryfach na’r ymwelwyr, gan ddefnyddio gwasg uchel a cheisio adeiladu ymosodiadau’n gyflym yn ystod camau cyntaf y chwarae. Yna byddai’r tîm cartref yn arafu’r chwarae i chwilio am gyfle a allai ddod â gwobr, gan edrych i groesi’r bêl i’r cwrt cosbi a rhoi amddiffyn Llantwit o dan bwysau. Daeth y cyfle cyntaf o gornel i Gaerau Ely. Chwipiodd George Sheppard y bêl tuag at y postyn agosaf, a pheniodd Tim Parker y croesiad i’r targed. Mae Parker wastad wedi bod yn fygythiad o sefyllfaoedd fel hyn, ac roedd ei beniad yn dda wrth iddo anelu tuag at y gôl, ond llwyddodd gôl geidwad Llantwit i wneud arbediad da. Gyda’r ddau dîm yn brwydro am dri phwynt hollbwysig, roedd rheolwr yr ymwelwyr yn uchel ei lais ar y llinell ochr drwy gydol y gêm, yn enwedig yn ystod y munudau agoriadol. Wrth i’r hanner cyntaf fynd yn ei flaen, roedd Caerau Ely yn edrych fel y tîm cryfaf ac yn ymddangos fel petaent ar fin mynd ar y blaen. Fodd bynnag, nid oedd Llantwit am ildio’r gêm mor hawdd. Newidiodd eu harddull dactegol wrth iddynt ddechrau gwasgu’n fwy ymosodol, gan dargedu llinell amddiffynnol uchel Caerau Ely, a rhoi’r tîm cartref dan bwysau. Er gwaethaf pwysau’r ymwelwyr, parhaodd y Young Guns i greu cyfleoedd. Rhoddodd pas anghywir gan chwaraewr canol cae Llantwit y bêl i Liam Bishop, sydd wedi bod yn un o sêr Caerau Ely hyd yma’r tymor hwn. Sylwodd Liam fod gôl-geidwad yr ymwelwyr oddi ar ei linell a cheisiodd ergyd feiddgar o hanner ffordd, gan geisio cicio’r bêl dros y gôl geidwad. Roedd y dechneg yn wych, ond cariodd y gwynt cryf y bêl yn llydan ac uwchben y postyn. Parhaodd y cyfleoedd i ddod, ond nid i’r tîm cartref, wrth i Llantwit ddechrau ennill rheolaeth ar y gêm drwy eu gwasg uchel effeithiol. Chwaraewyd y bêl o ganol y cae allan at yr asgellwr chwith, a groesodd y bêl tuag at y post cefn. Roedd Cullen Kinsella yn y safle cywir i dapio’r bêl i gefn rhwyd Caerau Ely, gan roi’r ymwelwyr ar y blaen. Newidiodd y gôl rediad yr hanner cyntaf, wrth i Llantwit gymryd rheolaeth a dechrau dominyddu’r gêm. Daeth eu cyfle nesaf unwaith eto lawr yr ochr chwith, mewn symudiad tebyg i’r un a arweiniodd at y gôl. Codwyd y bêl i’r postyn cefn unwaith eto, ond y tro hwn daeth yr ergyd o bellter ychydig yn fwy a gorffennodd ychydig yn llydan o’r postyn dde. Cyn diwedd yr hanner, cafodd y Young Guns, a oedd yn chwilio am ffordd yn ôl i’r gêm, un cyfle arall. Wrth i Llantwit adeiladu o’r cefn, pasiodd gôl-geidwad yr ymwelwyr y bêl at y cefnwr dde. Rhoddodd y cefnwr bas anghywir, a rhyng gipiodd Tim Parker y bêl cyn ei phasio ar draws y gôl tuag at Liam Bishop, a oedd yn aros i orffen y symudiad. Fodd bynnag, roedd y pas yn rhy gryf i Liam ei reoli, aeth y bêl heibio iddo a chafodd ei chlirio. Hwn oedd cyfle olaf yr hanner cyntaf.

.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner gyda Chaerau Ely yn gorfod mynd ar drywydd y gêm. Roedd angen iddynt newid sut oeddent am chwarae er mwyn dod o hyd i ffordd yn ôl i’r gêm, a dynna’n union a wnaethant ar ddechrau’r ail hanner, gan ymosod lawr yr ochr dde. Wrth i’r glaw trwm barhau, llwyddodd Caerau Ely i gael troedle yn y gêm a dechrau dominyddu’r ymosodiadau a’r meddiant. Daeth cyfle mawr cyntaf y Young Guns ychydig funudau i mewn i’r ail hanner, wrth i Liam Bishop wibio lawr yr ochr dde tuag at yr cwrt cosbi. Rheolodd y bêl yn dda, trodd heibio i amddiffynnwr a gosododd y bêl i Tim Parker unwaith eto. Tarodd Parker yr ergyd yn rymus tuag at y gornel chwith uchaf, ond gwnaeth gôl geidwad Llantwit arbediad gwych gyda blaenau ei fysedd i gadw’r bêl allan, ac atal yr hyn a fyddai wedi bod yn gôl gyfartal haeddiannol i Gaerau Ely. Wrth i’r ail hanner fynd yn ei flaen, daeth y ddau dîm yn fwy ymosodol wrth iddynt geisio naill ai amddiffyn eu mantais neu chwilio am gôl i gyfartal. Daeth hyn yn amlwg pan gafodd George Sheppard ei wthio ar ymyl yr cwrt cosbi ar ôl iddo eisoes chwarae’r bêl allan at yr asgell arall. Ni welodd y dyfarnwr hyn, a bu’n rhaid iddo ymgynghori â’i gynorthwyydd cyn rhoi cerdyn melyn i amddiffynnwr Llantwit.

Wrth i’r munudau fynd heibio, a’r Young Guns ddod yn fwy anobeithiol yn eu hymdrechion i ddod yn ôl i’r gêm, dechreuodd y amddiffynwyr ochr weithredu’n debycach i asgellwyr ymosodol, wrth i’r asgellwyr symud i mewn i’r canol i lenwi’r gofod a chynnig opsiynau pasio ychwanegol. Gallai’r cyfle nesaf fod wedi newid cwrs y gêm yn llwyr. Wrth i George Sheppard lawnsio gwrthymosodiad, yn dilyn pas anghywir gan chwaraewr canol cae’r ymwelwyr, llwyddodd i fynd heibio nifer o amddiffynwyr a chyrraedd yr cwrt cosbi. Gadawodd tacl hwyr gan amddiffynnwr canolog dde Llantwit George ar y llawr mewn poen, ond ni roddodd y dyfarnwr gic rydd. Roedd ymddangos yn amlwg i’r chwaraewyr, y cefnogwyr a staff hyfforddi Caerau Ely ddylai cic or smotyn ddylai dilyn. Roedd y ddau dîm bellach yn gwneud newidiadau, gyda tua phymtheg munud yn weddill. Gan geisio amddiffyn eu mantais, penderfynodd Llantwit newid eu dull ymosod a defnyddio mwy o beli hir. Parhaodd hyn i greu cyfleoedd iddynt, ond roedd hefyd yn lleihau’r risg o gael eu dal ar gwrthymosodiad. Gyda dim ond ychydig funudau’n weddill, chwaraewyd un o’r peli hir hyn allan at yr ochr chwith cyn ei hanfon i mewn i’r ardal gosb. Roedd Thomas Stokes yno i orffen y symudiad a dyblu mantais Llantwit. Roedd y ddau dîm bellach yn gwybod bod canlyniad y gêm wedi’i phenderfynu, a daeth i ben gyda chanlyniad siomedig i Gaerau Ely. Serch hynny, mae’r tymor yn dal yn hir, gyda digon o amser i gasglu mwy o bwyntiau a dringo’n ôl tuag at frig y gynghrair.

Diwedd y Gêm– Caerau Ely 0 -2 Llantwit Major

Live Now: Cardiff City World

Live Now: Welsh Football Show

Broadcasting Live: Penrhyncoch FC vs Llay Miner’s Welfare FC